Mae Cyfnewid UNA yn recriwtio Swyddog Prosiect i weithio ar draws ein portffolio o deithiau cyfnewid tymor byr

Mae Cyfnewid UNA yn elusen wirfoddoli ryngwladol yng Nghaerdydd, sydd â chynlluniau uchelgeisiol i dyfu, wrth i ni fynd i mewn i’n 45fed flwyddyn waith. Rydym yn recriwtio ar gyfer unigolyn deinamig i ymuno â’r tîm i weithio ar draws ein portffolio o deithiau cyfnewid tymor byr, sy’n cynnwys gwirfoddoli dramor fel rhan o grŵp, gwirfoddoli’n annibynnol dramor, a chymryd rhan mewn campiau gwaith yn ystod yr haf. Mae’r swydd Swyddog Prosiect (teithiau cyfnewid) yn cael ei chynnig ar gontract o bum mis i ddechrau hyd at 31 Hydref 2018, gyda’r potensial i ymestyn wedi hynny.

Mae ein busnes craidd yn cynnwys trefnu teithiau cyfnewid rhyngwladol i ac o Gymru, grymuso unigolion i gymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau’r gwasanaeth gwirfoddol sy’n datblygu cymunedau, gwarchod yr amgylcheddau hanesyddol a naturiol, a hyrwyddo dealltwriaeth rhyngddiwylliannol. Rydym yn anelu’n bennaf at bobl ifanc 18-30 oed, ac yn darparu cyfleoedd sy’n amrywio o gyfnodau preswyl pythefnos o hyd, i leoliadau tramor 12 mis. Rydym yn darparu rhaglen o wirfoddoli â chymorth hefyd i bobl ifanc sydd bellaf o’r farchnad lafur, ac sydd yn y perygl mwyaf o gael eu hallgáu’n gymdeithasol.

Mae Cyfnewid UNA yn derbyn cyllid craidd gan Lywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Sefydliadau Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol, ynghyd â chyllid sylweddol gan y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer trefnu teithiau cyfnewid ieuenctid Erasmus +. Mae Cyfnewid UNA yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau dielw ar draws y byd, ac mae’n aelod o Gynghrair Mudiadau Gwasanaethau Gwirfoddol Ewrop ac o’r Pwyllgor Cydlynu ar gyfer Gwasanaethau Gwirfoddol Rhyngwladol cysylltiedig ag UNESCO. Mae Cyfnewid UNA yn aelod o Bond, VINE UK, WCVA a CWVYS hefyd, sy’n hwyluso rhwydweithio ar draws Cymru ac ar draws y DU.

Gallwch lawrlwytho’r disgrifiad ròl a’r fanyleb person lawn yma. Os hoffech gael sgwrs anffurfiol ynghylch y rôl, cysylltwch â’r Cyfarwyddwr, Tara-Jane Sutcliffe: [email protected].

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn teimlo’n angerddol dros ganlyniadau buddiol gwirfoddoli rhyngwladol i gyfranogwyr unigol ac i’r cymunedau maen nhw’n gwirfoddoli ynddynt. Efallai eich bod chi newydd raddio, neu yn weithiwr proffesiynol sydd ar ddechrau eich gyrfaoedd, sydd yn edrych am eich cyfle nesaf i ddatblygu, ac sydd yn hapus i weithio mewn rôl tymor byr, hynod foddhaol. Rydym yn awyddus i glywed gan unigolion o bob cefndir.

I wneud cais, anfonwch CV a llythyr eglurhaol yn manylu ar sut mae eich sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, a phryd y byddech ar gael i ddechrau’r swydd. Y dyddiad cau ar gyfer anfon ceisiadau ydy 10am, ddydd Gwener, 1 Mehefin 2018; bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i ddod i gyfweliad ar ddydd Iau 7 Mehefin 2018.

Sefydlwyd Cyfnewid UNA ym 1973, ac mae’n Sefydliad Corfforedig Elusennol (elusen gofrestredig rhif: 1158106). I ddarganfod mwy am y sefydliad, ewch i’n gwefan: www.unaexchange.org.